Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd
Dyddiad: Dydd Mawrth, 3 Hydref 2017
Amser:
09.18 -
10.48
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4365
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David J Rowlands AC (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AC Mike Hedges AC |
Tystion: |
Dr John Cox, Deisebydd Terry Evans, Petitioner for P-04-575 Call in All Opencast Mining Planning Applications Chris Austin, United Valleys Action Group |
Staff y Pwyllgor: |
Graeme Francis (Clerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Lisa Salkeld (Cynghorydd Cyfreithiol) |
Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 498KB) Gweld fel HTML (195KB)
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn
· Ystyried y ddeiseb ymhellach yng nghyd-destun y cyhoeddiad ar y gyllideb yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw; ac yn y cyfamser
· Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i rannu pryderon y deisebydd a gofyn:
o a fydd hi'n cyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus a chofnodion y grŵp rhanddeiliaid fel gofynnodd y deisebydd;
o p'un ai a wnaed Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb ac a ellir rhoi hwn i’r Pwyllgor a’r deisebydd; ac
am ei barn ynghylch a fydd y trefniadau trosiannol arfaethedig yn sicrhau y bydd amcanion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) wedi cael eu rhoi ar waith gan awdurdodau lleol cyn cau Grant Byw'n Annibynnol Cymru.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros i glywed barn y deisebwyr am ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig cyn penderfynu pa gamau i’w cymryd mewn perthynas â’r ddeiseb yn y dyfodol.
Gwnaeth David Rowlands ddatgan y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae ei ferch yn marchogaeth ceffylau.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i:
· Ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ofyn a fyddai’n ystyried a ellid rhoi cymorth ychwanegol i ymgyrch “Dead? Or Dead Slow” Cymdeithas Ceffylau Prydain; ac
· Ysgrifennu at Gymdeithas Ceffylau Prydain i ofyn eu barn am y ddeiseb a’r camau y credir y gellid eu cymryd i gynyddu ymwybyddiaeth o’r angen i arafu wrth basio ceffylau a rhoi digon o le iddynt.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gyngor Celfyddydau Cymru i ofyn:
o p’un ai fod unrhyw ddigwyddiadau neu weithgareddau wedi cael eu cynnal yn ystod 2017 i gydnabod tri chan mlwyddiant geni William Williams;
o os na, pa ystyriaeth roddwyd i nodi’r garreg filltir hon yn ystod y flwyddyn; ac
o am eu barn am y cynigion a wnaed gan y deisebydd.
Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn gofyn:
· iddi roi diweddariad i’r Pwyllgor ar ôl cwblhau’r arolwg, a manylion unrhyw gamau pellach mae’n bwriadu eu cymryd i ddiogelu stociau cyllyll môr; ac
a oes unrhyw gamau wedi’u cymryd i ymchwilio i honiadau fod cynaeafu cyllyll môr wedi parhau ers cau’r bysgodfa.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i aros am ddiweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet wedi iddi ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb hon a P-05-765 Cadw Canllawiau Presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a chytunodd i aros am ddiweddariad gan yr Ysgrifennydd Cabinet wedi iddi ystyried y materion a godwyd gan y ddeiseb hon a P-05-757 Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a chytunodd i:
o atgynhyrchu’r tîm arbenigol rhanbarthol ar anhwylderau bwyta (tîm SPEED) sy’n gweithredu yng Ngogledd Cymru ac mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar hyn o bryd; ac
· Ystyried cymryd rhagor o dystiolaeth mewn perthynas â’r ddeiseb maes o law yn dibynnu ar yr ymateb a geir.
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon a’r deisebydd a chytunodd i aros am yr ymateb i lythyr pellach y Pwyllgor at yr Ysgrifennydd Cabinet mewn perthynas â P-04-408 cyn ystyried camau pellach ar y ddeiseb, gan gynnwys y posibilrwydd o wahodd yr Ysgrifennydd Cabinet i un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol.
Bu’r Pwyllgor yn ystyried gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i aros am y diweddariad a gynigiwyd gan yr Ysgrifennydd Cabinet cyn diwedd tymor yr hydref, cyn ystyried unrhyw gamau pellach ar y ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i ofyn am farn y deisebydd am yr ymateb hwnnw a holi beth arall, yn eu barn hwy, y gallai’r Pwyllgor ei wneud i symud y ddeiseb yn ei blaen.
Gwnaeth Janet Finch- Saunders ddatgan y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:
Mae’n berchen ar macaw.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a’r deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at RSPCA Cymru i gael eu barn am y materion a godwyd gan y deisebydd ac ar unrhyw gynnydd a wnaed trwy’u cyfarfodydd â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pwnc hwn.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig a chytunodd i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru i holi am eu hymateb i’r materion a godwyd mewn gohebiaeth flaenorol gan y deisebydd.
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb, yn dilyn dadl y y Cyfarfod Llawn a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf, gan nodi’r ymateb cadarnhaol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru i’r ddeiseb.
Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth gan Gyfoeth Naturiol Cymru a’r deisebydd, a chytunodd i ysgrifennu yn ôl at Adnoddau Naturiol Cymru er mwyn rhannu sylwadau diweddaraf y deisebwyr a derbyn eu cynnig i ddiweddaru’r Pwyllgor erbyn dechrau mis Tachwedd ar y cynnydd a wnaed mewn perthynas â chomisiynnu astudiaeth ddichonoldeb i’r opsiynau ar gyfer Ffordd Goedwig Cwmcarn.
Bu’r Pwyllgor yn ystyried sylwadau gan y deisebydd a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith i ofyn a allai roi eglurhad clir i’r deisebydd a’r Pwyllgor am yr hyn sy’n ymddangos yn newid safbwynt ers y Cynllun Gweithredu ynghylch Sŵn 2013-18 a’r ymrwymiadau a roddwyd gan ei ragflaenydd bod cynllun i ail-wynebu’r ffordd ar y gweill.
Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y sail bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol wedi ymateb i bryderon y deisebwyr, a’i bod hi’n anodd cymryd camau pellach yn sgil diffyg cysylltiad â’r deisebydd.
Bu’r Pwyllgor yn trafod sylwadau pellach gan y deisebydd a chytunodd i gau’r ddeiseb o gofio bwriad Llywodraeth Cymru i ddeddfu ar y mater hwn a llongyfarch y deisebwyr ar lwyddiant eu hymgyrch.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y deisebydd ochr yn ochr â chynrychiolwyr deiseb P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig.
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Grŵp Gweithredu United Valleys a deisebydd P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf.
Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
Bu’r Pwyllgor yn trafod tystiolaeth y sesiwn dystiolaeth flaenorol a nododd y bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn bresennol yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol i drafod y materion a godwyd gan y deisebwyr.